Lingua   

Carlo

Dafydd Iwan
Lingua: Gallese


Dafydd Iwan


Mae gen i ffrind bach yn byw ym Muckingham Palas,
A Charlo Windsor yw ei enw ef.
Tro dwethaf es i gnocio ar ei ddrws ei dy,
Daeth ei Fam i'r drws a medde hi wrthof i...

O, Carlo, Carlo,
Carlo'n 'warae polo heddi, heddi
Carlo, Carlo,
Carlo'n 'warae polo gyda Dadi, Dadi

Ymunwch yn y gân, trigolion fawr a man
O'r diwedd mae gynon ni 'Brins' yn ngwlad y gân.

Fe gafodd ei addysg draw yng ngwlad Awstralia,
Ac yna lan i Scotland yr aeth o.
Colofn y diwylliant Cymraeg,
Cyfrannwr i Dafod y Ddraig,
Aelod o'r Urdd, gwersyllwr er cyn cof...

O, Carlo, Carlo,
Carlo'n 'warae polo heddi, heddi
Carlo, Carlo,
Carlo'n 'warae polo gyda Dadi, Dadi

Ymunwch yn y gân, trigolion fawr a man
O'r diwedd mae gynon ni 'Brins' yn ngwlad y gân.

Bob wythnos mae e'n darllen Y Cymro a'r Faner,
Yn darllen Dafydd ap Gwilym yn ei wely bob nos,
Mae dyfodol y wlad a'r iaith yn agos at ei galon fach ef,
Y mae'n fwy o genedlaetholwr na'r FWA...

O, Carlo, Carlo,
Carlo'n 'warae polo heddi, heddi
Carlo, Carlo,
Carlo'n 'warae polo gyda Dadi, Dadi

Ymunwch yn y gân, trigolion fawr a man
O'r diwedd mae gynon ni 'Brins' yn ngwlad y gân.

O ie, Carlo, Carlo,
Carlo'n 'warae polo heddi ie, heddi
Carlo, Carlo,
Carlo'n 'warae polo gyda Dadi ie, Dadi

Ymunwch yn y gân, daiogion fawr a man
O'r diwedd mae gynon ni 'Brins' yn ngwlad y gân.



Pagina principale CCG

Segnalate eventuali errori nei testi o nei commenti a antiwarsongs@gmail.com




hosted by inventati.org