This Land Is Your Land
Woody GuthrieTraduzione inglese di una parte della versione gallese: | |
MAE'N WLAD I MI Mae’n wlad i mi ac mae’n wlad i tithau, O gopa’r Wyddfa i lawr i’w thraethau, O’r De i’r Gogledd, o Fôn i Fynwy, Mae’r wlad hon yn eiddo i ti a mi. Mi fum yn crwydro hyd lwybrau unig, ar foelydd meithion yr hen Arenig, A chlywn yr awel yn dweud yn dawel, “Mae’r wlad hon yn eiddo i ti a mi.” Mae’n wlad i mi ac mae’n wlad i tithau, O gopa’r Wyddfa i lawr i’w thraethau, O’r De i’r Gogledd, o Fôn i Fynwy, Mae’r wlad hon yn eiddo i ti a mi. Mi welais ddyfroedd Dyfyrdwy’n loetran, Wrth droed yr Aran ar noson loergan, A’r tonnau’n sisial ar lan Llyn Tegid, “Mae’r wlad hon yn eiddo i ti a mi.” Mae’n wlad i mi ac mae’n wlad i tithau, O gopa’r Wyddfa i lawr i’w thraethau, O’r De i’r Gogledd, o Fôn i Fynwy, Mae’r wlad hon yn eiddo i ti a mi. Mae tywod euraidd ar draeth Llangrannog A’r môr yn wyrddlas ym mae Llanbedrog: O dan yr eigion mae clychau’n canu, “Mae’r wlad hon yn eiddo i ti a mi.” Mae’n wlad i mi ac mae’n wlad i tithau, O gopa’r Wyddfa i lawr i’w thraethau, O’r De i’r Gogledd, o Fôn i Fynwy, Mae’r wlad hon yn eiddo i ti a mi. | In wandering along lonely pathways On the vast moorland of the old Arennig*, I would hear the breeze whisper softly: ‘This land belongs to you and me.’ This land is my land, this land is your land, From Snowdon’s summit down to its beaches, From south to north Wales, from Anglesey to Monmouth, This land belongs to you and me. *[mountain, near Bala] |