Language   

Cân Victor Jara

Dafydd Iwan
Language: Welsh




Yn Santiago yn saith- deg- tri
Canodd ei gân drwy'r oriau du,
Canodd ei gân yn stadiwm y trais,
Heriodd y gynnau â'i gitâr a'i lais,
Yn Santiago yn saith- deg- tri.

Yn Santiago yn saith- deg- tri
Canodd ei gân yn yr oriau du,
Canodd am ormes ar weithwyr tlawd
A`r llofrudd Ffasgaidd a laddodd ei frawd
Yn Santiago yn saith- deg- tri.

Yn Santiago yn saith- deg- tri
Canodd ei gân drwy'r oriau du,
Torrwyd ei ddwylo i atal y gân
Ond daliodd i ganu, a'i enaid ar dân.
Yn Santiago yn saith- deg- tri.

Yn Santiago yn saith- deg- tri
Gwelodd Victor Jara yr oriau du,
Poenydiwyd ei gorff gan anifail o ddyn
Fe'i saethwyd am garu ei bobol ei hun
Yn Santiago yn saith- deg- tri.

Mae cân Victor Jara i'w chlywed o hyd
Yn atsain yn uchel drwy wledydd y byd.
Fe erys y Ffasgwyr, erys y trais
Ond gwrando mae'r bobl am alwad ei lais,
Yn Santiago ein dyddiau ni.



Main Page

Please report any error in lyrics or commentaries to antiwarsongs@gmail.com

Note for non-Italian users: Sorry, though the interface of this website is translated into English, most commentaries and biographies are in Italian and/or in other languages like French, German, Spanish, Russian etc.




hosted by inventati.org