Originale | English Translation / Traduzione inglese |
CÂN VICTOR JARA | VICTOR JARA'S SONG |
| |
Yn Santiago yn saith- deg- tri | In Santiago in seventy three |
Canodd ei gân drwy'r oriau du, | He sang his song through the black hours, |
Canodd ei gân yn stadiwm y trais, | He sang his song in the stadium of violence, |
Heriodd y gynnau â'i gitâr a'i lais, | He challenged the gun with his guitar and voice, |
Yn Santiago yn saith- deg- tri. | In Santiago in seventy three |
| |
Yn Santiago yn saith- deg- tri | In Santiago in seventy three, |
Canodd ei gân yn yr oriau du, | He sang his song through the black hours, |
Canodd am ormes ar weithwyr tlawd | He sang of the oppression of poor workers |
A`r llofrudd Ffasgaidd a laddodd ei frawd | And the fascist murderer who killed his brother, |
Yn Santiago yn saith- deg- tri. | In Santiago in seventy three. |
| |
Yn Santiago yn saith- deg- tri | In Santiago in seventy three, |
Canodd ei gân drwy'r oriau du, | He sang his song through the black hours, |
Torrwyd ei ddwylo i atal y gân | His hands were broken to stop the song |
Ond daliodd i ganu, a'i enaid ar dân. | But he continued to sing with his soul ablaze. |
Yn Santiago yn saith- deg- tri. | In Santiago in seventy three. |
| |
Yn Santiago yn saith- deg- tri | In Santiago in seventy three, |
Gwelodd Victor Jara yr oriau du, | He sang his song through the black hours, |
Poenydiwyd ei gorff gan anifail o ddyn | His body was tortured by a beast of a man. |
Fe'i saethwyd am garu ei bobol ei hun | He was shot for loving his own people |
Yn Santiago yn saith- deg- tri. | In Santiago in seventy three. |
| |
Mae cân Victor Jara i'w chlywed o hyd | Victor Jara's song is still to be heard |
Yn atsain yn uchel drwy wledydd y byd. | Resounding loudly throughout the world. |
Fe erys y Ffasgwyr, erys y trais | Fascists remain, violence remains |
Ond gwrando mae'r bobl am alwad ei lais, | But people are listening for the call of his voice, |
Yn Santiago ein dyddiau ni. | In our day Santiago. |