Lingua   

Llun yn y Papur

Gwyneth Glyn
Lingua: Gallese


Gwyneth Glyn


Mae nhw'n deud dy fot ti'n un o fil
ond ti 'mond yn un o'r criw.
Ti'n mynd er mwyn cael dod yn ol
a ti'n lladd er mwyn cael byw.
A ti'n neud o'n enw Duw.

A mae dy lun di yn y papur,
mae dy blant di yn eu dagrau.
Mae'r arwr yn yr awyr
yn bell o swn y gynnau

Mor oer, mor oer dy galon di
yng nghanol gwres y gwir.
Mor dawel dy gydwybod di
yng nghanol twrw'r tir.
Mae bob un rhyfel rhy hir.

Mae dy lun di yn y papur,
mae dy blant di yn eu dagrau.
Mae'r arwr yn yr awyr
yn bell o swn y bomiau.

Mae'r afon fach yn llifo'n sych,
di'r plantos ddim yn chwarae.
Mae'r wen ar wep y gwleidydd gwan
yn gaddo fel tro diwethaf
neith y rhyfel yma ddim parhau.

Ond mae dy lun di yn y papur,
mae dy blant di yn eu dagrau.
Mae'r arwr yn yr awyr
yn bell o swn y bomiau,
yn bell o swn y bomiau...



Pagina principale CCG

Segnalate eventuali errori nei testi o nei commenti a antiwarsongs@gmail.com




hosted by inventati.org